Dydd Llun, Tachwedd 10
Gwnewch yn siŵr fod pob peth yn gywir.—1 Thes. 5:21.
Roedd y gair Groeg sydd wedi cael ei gyfieithu “gwnewch yn siŵr” yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sut roedd pobl yn profi metelau gwerthfawr i weld a oedden nhw’n bur neu beidio. Yn yr un ffordd, rydyn ni angen profi cywirdeb yr hyn rydyn ni’n ei glywed a’i ddarllen. Bydd hyn yn bwysicach byth i ni wrth i’r trychineb mawr agosáu. Yn hytrach na chredu popeth mae eraill yn ei ddweud, rydyn ni’n meddwl yn ofalus ac yn cymharu beth rydyn ni’n ei ddarllen neu’n ei glywed â beth mae’r Beibl a’r gyfundrefn yn ei ddweud. Os gwnawn ni hynny, fyddwn ni ddim yn cael ein twyllo gan bropaganda’r cythreuliaid. (Diar. 14:15; 1 Tim. 4:1) Rydyn ni’n gwybod y bydd pobl Dduw fel grŵp yn goroesi’r trychineb mawr. Ond fel unigolion, dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd yfory. (Iago 4:14) P’un a ydyn ni’n byw drwy’r trychineb mawr neu’n marw cyn hynny, byddwn ni’n cael y wobr o fyw am byth os ydyn ni’n aros yn ffyddlon. Gad inni i gyd ffocysu ar ein gobaith hyfryd ac aros yn barod am ddydd Jehofa! w23.06 13 ¶15-16
Dydd Mawrth, Tachwedd 11
Dydy fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn gwneud dim byd heb ddangos ei gynllun i’w weision y proffwydi.—Amos 3:7.
Dydyn ni ddim yn gwybod yn union sut bydd rhai proffwydoliaethau’r Beibl yn cael eu cyflawni. (Dan. 12:8, 9) Ond bydd proffwydoliaethau’n dal yn dod yn wir p’un a ydyn ni’n eu deall nhw neu ddim. Yn bendant, gallwn drystio y bydd Jehofa yn helpu ni i ddeall yr hyn rydyn ni angen gwybod ar yr adeg iawn, yn union fel y gwnaeth yn y gorffennol. Bydd ’na ddatganiad o “heddwch a diogelwch.” (1 Thes. 5:3) Yna bydd grymoedd gwleidyddol y byd yn troi ar gau grefydd a’i dinistrio. (Dat. 17:16, 17) Ar ôl hynny, byddan nhw’n ymosod ar bobl Dduw. (Esec. 38:18, 19) Bydd y digwyddiadau hyn yn arwain yn uniongyrchol at ryfel Armagedon. (Dat. 16:14, 16) Gallwn fod yn sicr y bydd y pethau hyn yn digwydd yn fuan. Ond tan hynny, gad inni ddangos i’n Tad nefol ein bod ni’n ddiolchgar drwy dalu sylw i broffwydoliaethau’r Beibl a thrwy helpu eraill i wneud yr un fath. w23.08 13 ¶19-20
Dydd Mercher, Tachwedd 12
Gadewch inni barhau i garu ein gilydd, oherwydd bod cariad yn dod o Dduw.—1 Ioan 4:7.
Pan oedd yr apostol Paul yn trafod ffydd, gobaith, a chariad, gorffennodd drwy ddweud: “Y mwyaf o’r rhain ydy cariad.” (1 Cor. 13:13) Pam felly? Fydden ni ddim angen ffydd yn addewidion Duw am fyd newydd na gobeithio amdanyn nhw unwaith iddyn nhw gael eu gwireddu. Ond, bydden ni wastad angen cariad tuag at Jehofa a thuag at bobl. Mewn gwirionedd, bydd ein cariad yn tyfu am byth. Hefyd, mae dangos cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd, yn profi ein bod ni’n wir Gristnogion. Dywedodd Iesu wrth ei apostolion: “Bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddisgyblion i mi os ydych chi’n caru eich gilydd.” (Ioan 13:35) Ar ben hynny, mae cael cariad tuag at ein gilydd yn ein cadw ni’n unedig. Dywedodd Paul fod cariad yn “uno pobl yn berffaith.” (Col. 3:14) Ysgrifennodd yr apostol Ioan at ei gyd-gredinwyr “bod rhaid i bwy bynnag sy’n caru Duw garu ei frawd hefyd.” (1 Ioan 4:21) Pan ydyn ni’n dangos cariad tuag at ein gilydd, rydyn ni’n dangos cariad tuag at Dduw. w23.11 8 ¶1, 3